Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 17 Hydref 2016
Amser: 14.00 -
16.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3756
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Rhun ap Iorwerth AC Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC Andrew RT Davies AC (yn lle Nick Ramsay AC) |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Anthony Hayward, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Rhiannon Jones, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig) Colin Phillpott, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Liz Waters, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Jean White, Llywodraeth Cymru Lynda Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 2MB) Gweld fel HTML (364KB)
1.1 Gan fod rhybudd wedi ei roi ymlaen llaw am absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, roedd y Pwyllgor wedi ethol Rhun ap Iorwerth fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn o dan Reolau Sefydlog 17.22 a 18.6 yn y cyfarfod ar 3 Hydref.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay. Roedd Andrew R T Davies yn dirprwyo ar ei ran.
1.4 Datganodd Lee Waters ddiddordeb bod ei wraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Holodd y Pwyllgor Lynda Williams, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Anthony Hayward, Cyfarwyddwr Cyfleusterau Cynorthwyol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Liz Waters, Nyrs Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Nyrsio'r Gymdeithas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Colin Phillpott, Rheolwr Cyfleusterau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.
4.1 Holodd y Pwyllgor Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG a'r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.
4.2 Cytunodd Dr Goodall i ysgrifennu at y Pwyllgor ar ddiwedd mis Tachwedd gyda rhagor o wybodaeth am:
· Y cynllun prosiect diwygiedig ar gyfer y nyrs wybodeg newydd a fydd yn ymgymryd â'r swydd ar ddiwedd mis Hydref; a
· Canlyniad yr ystyriaeth ar gyfer achos busnes dros gaffael system arlwyo TG o'r cyfarfod Bwrdd Gwybodeg Cenedlaethol.
4.3 Yn ogystal, yn dilyn tystiolaeth gynharach, byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch i bwy mae Grŵp Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan yn atebol.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ddychwelyd at y mater ar ôl cael yr holl wybodaeth ychwanegol.
6.2 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft yn amodol ar gynnwys un neu ddau o gwestiynau ychwanegol.
6.3 Awgrymodd Aelodau feysydd ar gyfer argymhellion posibl ar gyfer adroddiad y Pwyllgor.